Patagonia 2010

Patagonia 2010 Hanes Taith Menter Bro Ogwr i’r Wladfa Gymreig

Y Daith Greigiog – Patagonia Roeddem yn ffodus iawn i gael y cyfle i ymweld â Phatagonia gyda grŵp bach o 13eg gyda Menter Bro Ogwr dan arweiniad Marged Thomas ym mis Hydref o’r 16eg hyd yr 31ain.

Y Paith 092Roedd yn daith bell ond hyd yn oed ar ôl 26awr o deithio i Buenos Aires roeddem yn barod i fwynhau ein pryd cyntaf mewn noson Tango – rhyfeddol!  Arhosom mewn gwesty 4* yng nghanol y ddinas ac fe’n tywyswyd ar daith o amgylch Buenos Aires – dinas fywiog.

Aethon i ymweld â mynwent Recdetta – ble claddwyd Eva Peron, yna cael pryd bwyd hyfryd mewn bwyty ar lan yr afon Plate.

 

Drannoeth daliasom yr awyren gynnar i Drelew, yna taith o ryw 40 milltir drwy’r anialdir i’n gwesty 4* nesaf yn Puerto Madryn.  Arhoson yn ein gwesty moethus ar lan y môr am y 5 diwrnod nesaf.

Puerto Madryn oedd y man ble glaniodd y Mimosa – y llong ddaeth a’r Cymry draw yn 1865.  Aethon i’r traeth a gweld yr ogofau ble buont yn byw, golygfa emosiynol iawn pan rydych yn cofio pa mor benderfynol oedd yr ymfudwyr i ddechrau eu bywyd newydd.  Ar y traeth cawsom ein cyflwyno i Yerba Mate – diod leol, rhyw fath o drwyth, gyda gwelltyn ar siâp llwy i’w yfed oedd yn cael ei basio o un i’r llall – yuck!  Roedd mor ddrwg â the Senna!  Mae’n debyg i’r ddiod yma eu cadw i fynd pan nad oedd llawr o fwyd i’w gael.  Gellir gweld y brodorion yn cario eu fflasg o dd?r poeth a’u Matte Packs.  Yn aml gwelwyd Walter, gyrrwr ein bws mini, ac weithiau ein tywysydd, Clare, yn ei yfed.

Gwnaethom ychydig o wylio morfil a bu rhai o’n gr?p yn ymweld â nythfa o forloi a phengwiniaid, ar ôl pryd ysblennydd ar y traeth.

Bore wedyn teithiom i seremoni’r Orsedd yn y Gaiman,  Dyma ein cyfarfyddiad cyntaf gyda’r gymuned Gymraeg.  Yn dilyn cawsom bryd o fwyd hyfryd ym mwyty Calon Gwladfa, yr unig dro i ni gael tatws!

Drannoeth daeth ein cyfle mawr yn yr Eisteddfod.  Roedd cerddor yn ein gr?p wedi creu côr o’r 13 ohonom a chanom Sirioldeb mewn pedwar llais!  Daethom yn drydydd, wedi ein curo gan gr?p o’r Urdd o Dde Cymru a ganodd Calon Lân yn hyfryd.

Cawsom y cyfle i ymweld â melin yn Dalovon a nifer o gapeli Cymraeg, Roedd y Gymanfa Ganu yng nghapel Bethel yn orlawn, yn draddodiadol gyda’r dynion ar un ochr a’r menywod ar yr ochr arall, canu rhyfeddol.  Dilynwyd hyn gan ginio Asado gyda’r gymuned Gymraeg.  Roedd y cig eidion wedi bod yn coginio ar rastl am tua 5 awr dros dân agored.  Daeth y cig i mewn yn hisian ar blatiau poeth, a dal i ddod.  Darnau mawr o gig yn cael ei weini ar ein platiau ar sgiwer nes i ni orfod dweud yn y diwedd digon yw digon!  Roedd y rhan fwyaf o brydiau bwyd yn cynnwys salad. Ychydig iawn o ffrwythau ffres welom ni..

Tra yn y gymuned Gymraeg, aethon i ymweld â’r Ysgol Gymraeg, Ysgol yr Hendre a gweld sut mae oedolion yn dysgu’r Gymraeg drwy ddulliau modern fel WLPAN a llyfrau modern wedi eu rhoi gan wasanaethau Addysg yng Nghymru.

Yn dilyn y cinio Asado gyda’r Gymuned Gymraeg teithiom dros 400 milltir ar ein bws moethus ar draws y Paith i’r Andes.  Gwlad y mynyddoedd mawr gydag eira ar eu copâu, clogwyni enfawr a’r afon Camwy.   Cawsom brofiad gwefreiddiol ar y ffordd pan safodd y bws mewn lle anghysbell. Wedi dod allan o’r bws, trowyd ei oleuadau i ffwrdd i ni gael sawru’r tawelwch llethol ac edrych i fyny i weld yr awyr yn orlawn o sêr –  y Llwybr Llaethog gyda’r Groes Ddeheuol i’w gweld yn glir – cyfareddol.

Er ei bod yn daith o 8 awr hedfanodd yr amser gan i ni wylio ffilmiau ar hanes lleol a ffeithiau diddorol, roeddem i weld wedi cyrraedd mewn llai o amser! Arhosom yn Esquel, tref brysur brifysgol, mewn gwesty newydd 5*, ac ymweld â’r Ysgol Gymraeg  a’r capel.

Teithiom i Trevelin a dilyn ffordd y Rifleros a hyd y “Secret Valley” gyda’i olygfeydd syfrdanol o “Cwm Hyfryd”

Yn anffodus doedd yr un “Condor” i’w weld y diwrnod hwnnw, ond gwelsom un yn hwyrach yn ystod ein hymweliad.

Wedyn cawsom De Cymraeg hyfryd mewn bwyty, caffi bach o’r enw Nain Maggie yn Trevelin.  Bwyd cartref! Allwn i ddim gwrthsefyll cael ail ddarn o darten riwbob.  Roedd yn flasus.

Drannoeth aethom i ymweld â Pharc Cenedlaethol Los Alerces, cael trip cwch ar Lyn Menendez ac wedyn cerdded yn y goedwig law a gweld coeden Alerce oedd yn 2700 o flynyddoedd oed. Un o’r ddwy yn y byd o’r sydd o’r oedran yma.  Anhygoel.  Roedd yn brofiad arbennig gyda thywysydd oedd yn llawn brwdfrydedd a gwybodaeth.  Rhagor o safleoedd hanesyddol ac fe gwplodd y dydd gydag ymweliad affirm ffrwythau, ei pherchennog yw Llywydd y Gymdeithas Gymraeg.  Mae’n gwerthu ei geirios i Marks & Spencer.  Darparwyd pryd arall Asado hyfryd gyda llawer o salad ar ein cyfer, y cyfan wedi ei baratoi gan y Gymuned Gymraeg.  Cawsom groeso cynnes ganddynt ac roeddent yn awyddus i wybod o ble roeddem i gyd yn dod.

Roedd ein gwesteiwraig Rosa yn hanu o Ddolgellau, ni siaradai air o Saesneg, din ond Cymraeg a Sbaeneg.  Wrth gwrs daeth y noson i ben gyda chanu.

Y diwrnod canlynol, noson ffarwel yn Esquel gyda’r Cymry.  Cafwyd llawer o eiliadau cofiadwy.  Storïau am yr ymfudwyr Cymraeg yn gwneud ffrindiau gyda’r Indiaid brodorol, a’r Indiaid yn trosglwyddo sgiliau byw yn y gwyllt iddynt, stori am geffyl yn arbed bywyd Daniel Evans pan gafodd ei dri ffrind eu lladd.  Dywed y stori gan ei wyres bel mae yna gofeb i’w enw.  Gwelsom y rheilffordd na gwplwyd. Ymweld â’r t? cyntaf a nifer o gapeli a’r fynwent bel mae llawer o’r beddi yn dal i gael gofal (cared for).  Amgueddfeydd gydag offer a dillad a ddefnyddiwyd gan yr ymfudwyr gwreiddiol.

Roedd yn rhyfedd i glywed Cymraeg yn cael ei siarad mor bell o gartref, i weld enwau Cymraeg ar dai a strydoedd ac i ddarllen cymysgwch o enwau Cymraeg a Sbaeneg.  Mae’n galonogol i wybod fod y Cynulliad Cymraeg yn ariannu dau athro i dreulio amser yn dysgu aelodau hynach y gymuned i siarad Cymraeg drwy ddefnyddio’r llyfrau modern diweddaraf, i wybod fod ein traddodiadau a’n diwylliant yn fyw a bod rhai o’r brodorion Sbaeneg yn eu cofleidio hefyd.

I’r rhai ohonom oedd ar y daith gwnaethom fwynhau profiad bythgofiadwy.

Claire  Kombos a Barbara Ritchie (Porthcawl)

Taith Ardderchog, bleserus dros ben. Roedd yr Orsedd yn yr Eisteddfod yn eithaf emosiynol. Roedd y gwibdeithiau yn wych ac roedd ein tywyswyr Jeremy a Claire yn ardderchog. Roedd yr holl brofiad yn aruthrol ac roeddwn i’n teimlo’n falch iawn i fod yn Gymro.

Phillip Rees (Aberdâr)

Diolch Marged a Menter Bro Ogwr am drefnu’r daith i Batagonia gyda Teithiau Tango. Ers i mi fod yn ferch fach, rwyf wedi clywed straeon o fy nhad am ei amser yn Nhrevelin rhwng 1923 a 1931. Rhoddodd y daith yma’r cyfle i mi ddilyn llwybr yr ymfudwyr cyntaf a gweld lle’r oedd fy nhad yn byw. Rhoddodd Aled o Teithiau Tango fi mewn cyswllt â Jeremy ac Arturo allan ym Mhatagonia a galluogodd eu hymchwil nhw i mi olrhain t? fy nhad a darganfod pobl oedd yn ei nabod. Roedd hi’n hyfryd cael gweld y cefn gwlad gyferbyniol a chael teimlad am y wlad. Roeddwn i wedi darganfod cymaint yn fwy nag oeddwn i’n disgwyl ac roeddwn i wedi gwirioni â’r holl daith. Roedd hi’n daith gyffrous – ac yn emosiynol hefyd. Diolch i Menter Bro Ogwr am ei wneud e’n bosib! – ac am groesawi fi mewn i’ch gr?p.

Hazel Davies (Porthcawl)