Nod Menter Bro Ogwr yw ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y sir . Menter Gymunedol ydyw sy'n adlewyrchu awydd trigolion Pen-y-Bont-Ar-Ogwr i adfywio'r Gymraeg. Rydym yn derbyn cymorth ariannol gan Fwrdd Yr Iaith Gymraeg.
www.menterbroogwr.org
dysgwyr Mae'r Fenter wedi derbyn grant hael iawn oddi wrth Banc yr HSBC i weithredu cynllun grantiau bach i ddysgwyr. Trwy'r cynllun yma mae modd i unigolion dderbyn cymorth ariannol tuag at gostau dysgu'r Gymraeg i fyny at 50% o gost llawn y cwrs neu adnoddau.
fforwm Cymraeg Ym mis Tachwedd cynhelir cyfarfod cyntaf o Fforwm Cymraeg Pen-Y-Bont Ar Ogwr. Bwriad y Fforwm yw i ddod â Mudiadau gwahanol sydd yn cynrychioli trawsdoriad o sectorau a chymunedau at eu gilydd i drafod materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg. Os hoffech ddod i'r Fforwm galwch Iwan ar y rhif isod.
gofal plant Rydym wedi bod yn Ilwyddiannus gyda grant o'r Gronfa Cyfleoedd Newydd, ac wedi agor un Clwb ar Ol Ysgol ym Maesteg ac yn agor un arall yrg Nghwm Garw yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae mwy o geisiadau i'r gronfa ar droed fel y bydd Clwb Gofal ar Ol Ysgol gyda phob Ysgol Gynradd Gymraeg yn y sir erbyn diwedd 2002.
Y Fenter sydd hefyd yn rhan-ariannu cynlluniau chwarae Pen-Y Bont a Maesteg. Ar hyn o bryd rydym mewn trafodaethau gyda'r Cyngor Sir i sefydlu un arall y flwyddyn nesaf yng Nghorneli a Mynydd Cynffig.
apel am bwyllgorwyr Mae'r Fenter yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â'n Pwyllgor Gwaith. Os oes gennych farn ar y ffordd ymlaen i'r iaith Gymraeg yn y sir yna pa ffordd well i leisio barn nag ar bwyllgor Menter iaith? Rydym yn cyfarfod pob 4-6 wythnos ac yn awyddus iawn i glywed oddi wrth unrhyw un fyddai â diddordeb i roi o'u hamser yn wirfoddol am ryw 2 awr bob 4 - 6 wythnos. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb.
staff y fenter Iwan Williams yw Swyddog Datblygu y Fenter. Yn wreiddiol o Abertawe mae wedi penderfynu dod i Ben-Y-Bont ar Ogwr i weld os yw'r tîm rygbi yno yn cymharu i wyr y crysau sgarlad o Lanelli y mae mor hoff ohonynt! Ac i hyrwyddo'r iaith Gymraeg wrth gwrs!
Mae Julie Davies newydd ddechrau fel swyddog clerigol gyda'r Fenter ac mae wedi bod yn gweithio fel tiwtor i oedolion ac fel cyfieithydd rhan amser. Bu Julie bron a gorfod dileu y dyddiad yr oedd fod i ddechrau eu gwaith oherwydd y trafferth yn America pan oedd ar eu gwyliau yn Florida ar y pryd! Mae Iwan yn falch iawn eu bod hi wedi dechrau a bod y coffi nawr yn blasu cymaint yn well!
Bydd Amanda Knill yn dechrau fel Swyddog leuenctid Menter Bro Ogwr yng nghanol mis Hydref, mae hi wedi byw ym Mynydd Cynffig drwy ei hoes ac yn hoff o fynd i'r gym am 7.30 bob bore! Does neb yn credu bydd ieuenctid y sir yn hoff o'r syniad yna! Ond pwy a wyr...
llinell gyswllt i'r Gymraeg
Am gyfieithu rhad ac am ddim ffoniwch
0845 6076070
Mae'r Fenter yn cynnig gwneud cyfieithiadau byr yn ddi-dâl i fudiadau sy'n gweithredu yn uniaith Saesneg ac sydd eisiau gweithredu yn fwy ddwyieithog.
cysylltiadau defnyddiol ar y we Cilmeri.com - dolen gyswllt i nifer o wefannau Cymraeg yn cynnwys dolenni i wefannau i ddysgwyr hefyd www.mentrau-iaith.com - cyfle i weld proffil o'r iaith Gymraeg yn eich ardal chi sydd yn cynnwys cysylltiadau defnyddiol a digwyddiadau www.bwrdd-yr-iaith.org.uk - gwefan bwrdd yr iaith gymraeg www.welsh.cd/index2.htm - safle i ddysgwyr weithio ar eu sgiliau ar y rhyngrwyd www.cymuned.org.uk - gwefan sy'n hyrywddo ieithoedd cymunedol