Lee Jukes Bridge FM
Mae Lee Jukes yn dysgu Cymraeg am 10.30yb bob dydd

 

Dysgwyr

 

 

Os ydych yn ddechreuwr:

ymunwch â Mynediad 1, neu Mynediad 1 a 2.

Os ydych wedi cwblhau:

Blwyddyn 1, ymunwch â Mynediad 2.
Blwyddyn 2, ymunwch â Sylfaen 1, neu Sylfaen 1 a 2.
Blwyddyn 3, ymunwch â Sylfaen 2.
Blwyddyn 4, ymunwch â Canolradd 1, neu Canolradd 1 a 2
Blwyddyn 5, ymunwch â Canolradd 2.
Blwyddyn 6, ymunwch ag Uwch 1.
Blwyddyn 7, ymunwch ag Uwch 2.

If you are a beginner:

join Entry 1, or Entry 1 and 2.

If you have completed:

Year 1, join Entry 2.
Year 2, join Foundation 1, or Foundation 1 and 2.
Year 3, join Foundation 2.
Year 4, join Intermediate 1, or Intermediate 1 and 2.
Year 5, join Intermediate 2.
Year 6, join Advanced 1.
Year 7, join Advanced 2.

 

Dysgwyr 1
Bore Coffi Cymraeg Blaengarw
Bore Coffi Cymraeg Blaengarw
Mae Menter Bro Ogwr yn falch i gyhoeddi y byddwn yn cynnal bore coffi wythnosol newydd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd cyfle i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg gwrdd am baned a sgwrs bob bore dydd Mercher yng Nghaffi Creation ym Mlaengarw.

Bydd Bore Coffi Blaengarw yn cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf 2010 rhwng 10yb a 11yb. Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni, beth bynnag eich lefel Cymraeg neu’ch oedran!

Os ydych chi’n dysgu Cymraeg ac yn edrych am gyfle i ymarfer dros y gwyliau haf, dyma gyfle i gario clecs ac ymarfer eich Cymraeg wrth wneud!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Marged.
marged@menterbroogwr.org
01656 732 200

02/08/2010

Taith i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd.
Taith i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd.
Rhwng 25 – 30 Mai 2009, caiff Bae Caerdydd ei drawsnewid i gynnal Eisteddfod yr Urdd, gŵyl ieuenctid ddiwylliannol Cymru. Bydd hyd at 100,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr yn rhan o fwrlwm yr wyl a chynulleidfa deilwng yn gwylio’r cyfan ar y teledu. Gyda goreuon ieuenctid Cymru yn cystadlu mewn cystadlaethau canu, llefaru, actio, drama, dawnsio, cyfansoddi, barddoni, celf a chrefft a llawer mwy, bydd digon o gyffro i’w weld a’i glywed ym Mae Caerdydd dros wythnos hanner tymor.

Mae Menter Bro Ogwr yn trefnu bws i’r Eisteddfod ar Ddydd Iau 28ain o Fai. Pris y bws fydd £8 i oedolion a £7.50 i blant. Nid yw’r pris yn cynnwys mynediad i’r Eisteddfod.

Gadael:
09.00 – Maes Parcio Salt Lake Porthcawl
09.20 – Maes Parcio Harvester Sarn

Dychwelyd:
17.00 – Harvester Sarn
17.20 – Maes Parcio Salt Lake Porthcawl.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Marged.
01656 732 200
marged@menterbroogwr.org

28/05/2009
Swper Nadolig Menter Bro Ogwr a Cymraeg i Oedolion
Swper Nadolig Menter Bro Ogwr a Cymraeg i Oedolion
Nos Wener 27ain o Dachwedd 2009
7.30yh

Pryd o fwyd yng nghwmni y cyflwynwraig Radio a Theledu - Eleri Siôn!!!

Bwyty Indiaidd
The Cinnamon Tree
Broadlands, Pen-y-bont

Blaendal: £5
Dyddiad Cau 13.11.09

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Marged.
marged@menterbroogwr.org
01656 732200
27/11/2009

Noson Ffilm Twrw a Chwrw
Noson Ffilm Twrw a Chwrw
Bydd Twrw a Chwrw yn dangos y ffilm Ryan a Ronnie ar y 24ain o Ebrill yng Nghlwb Llafur Bryntirion(OCLP). Mae’r noson yn dechrau am 8:00yh a chost mynediad yw £5. Bydd y ffilm yn cael ei ddangos gydag is-deitlau Saesneg.

Mae'r ddrama gan Meic Povey, yn dilyn un diwrnod dramatig ym mywydau'r ddau gomedïwr, pan mae'r ddau yn wynebu gwahanu â'i gilydd. Chwaraeir rhan Ryan gan Aled Pugh a Ronnie gan Rhys ap Hywel.

Dangoswyd y ffilm, sydd nawr ar daith o amgylch Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd llynedd.

“Mae'n ffilm fydd yn dwyn atgofion i lawer ac yn agoriad llygad i genhedlaeth iau na chafodd y fraint o weld y ddau gomedïwr ar waith.” (BBC Cymru Cylchgrawn)

24/04/2009
 

 

 


Top
Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200
Menter Bro Ogwr - Elusen gofrestredig rhif: 1112683.
Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5522274
Bwrdd yr iaith Gymraeg