Plant 1
Taith Dewin
Taith Dewin
Trefnodd Kathryn Campbell, Swyddog Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Menter Bro Ogwr a Kate Parry, Swyddog Datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin, daith gyda Dewin i ymweld â phlant ac arweinyddion pob Cylch Meithrin Cymraeg y Sir.

Cafodd y plant gyfle i gwrdd â Dewin, canu caneuon, dawnsio a chael hwyl gyda fe trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Roedd y swyddogion yn teimlo’n gyffrous am y daith ac yn edrych ymlaen at gwrdd â phlant ac oedolion y Sir er mwyn derbyn syniadau newydd er mwyn gwella darpariaethau Cymraeg yn y gymuned. Aeth y daith yn dda iawn, gyda’r plant a’r arweinyddion i gyd yn mwynhau ac roeddent yn awyddus i glywed am brosiectau arall oedd yn mynd i gael eu cynnig iddyn nhw yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch Dewin am ddod i weld plant Sir Pen y Bont ar Ogwr.

03/08/2010

Diwrnod Dysgu Hwyl i'r Teulu
Cerddoriaeth , crefftau , Paentio, Castell bownsio a llawer mwy…..Mynediad 50c i oedolion

Dewch yn eich gwisgoedd Archarwyr!

Canolfan Hamdden Pen- y- bont
Dydd Sadwrn 22 o Fai 2010
10.00 - 12.00

Cysylltwch â Kath am fwy o wybodaeth.
kathryn@menterbroogwr.org
0 1656 732 200
22/05/2010
Diwrnod i'r Teulu
Diwrnod i'r Teulu

13/06/2010

BORE I'R TEULU 2010
Dewch am fore o hwyl i'r teulu gydag Anthony o raglen Stwffio S4C, Heini S4C a Holi Hana!!!

Cerddoriaeth, Crefftau, Crysau-T, Llyfrau a llawer mwy!!!

Dydd Sadwrn 13 Mawrth 10yb - 12yp
Canolfan Hamdden Pen-y-bont

Mynediad - 50c i oedolion


13/03/2010
 

 

 


Top
Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200
Menter Bro Ogwr - Elusen gofrestredig rhif: 1112683.
Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5522274
Bwrdd yr iaith Gymraeg