CLYBIAU CIC

Clybiau CiC

 

 

 

Lazerzone

 

Ieuenctid 1
Cyrraedd y Nod!
Cyrraedd y Nod!

Llongyfarchiadau mawr i ein Swyddog Ieuenctid, Siân Stephens, am basio ei chwrs gwaith ieuenctid lefel 3. Roedd Siân wedi gweithio’n galed iawn i gwblhau a chyflwyno ei gwaith cwrs er mwyn derbyn y cymhwyster yma.

Roedd Leon Welsby, un o weithwyr ieuenctid rhan amser y Fenter, yn llwyddiannus hefyd.

Llongyfarchiadau mawr i’r ddau!

AJE

20/09/2010

Disgo ‘Ar lan y môr’ i flynyddoedd 7 & 8 Llangynwyd
Disgo ‘Ar lan y môr’ i flynyddoedd 7 & 8 Llangynwyd
Mae’r pwyllgor iaith wedi bod ati’n galed unwaith eto yn trefnu disgo arall ar gyfer disgyblion Llangynwyd!Dewch yn eich dillad haf am noswaith o hwyl a sbri gyda’ch cyfeillion!

06.05.10
Neuadd ganol Ysgol Gyfun Llangynwyd
16:00 – 17:30
£1 am fynediad A bag o losin!

06/05/2010
Diwrnod Pethau Bychain Hapus!
Diwrnod Pethau Bychain Hapus!
Erthygl gan Sian Stephens, Swyddog Ieuenctid Menter Bro Ogwr.

Ta-ta Ysgol Gynradd, helo Ysgol Uwchradd!

Jyst cyn i benwythnos cyntaf mis Medi ddechrau, roedd yn rhaid i rai o Gymry Ben-y-bont herio eu diwrnod cyntaf yn Ysgol Gyfun Llangynwyd. Fel y rhan fwyaf o ysgolion, roedd ganddyn nhw’r fraint o wario’r diwrnod cyntaf yn yr ysgol ar ben eu hunain...er mwyn dod i adnabod eu cartref newydd am y blynyddoedd nesaf.

Ar ôl sgwrsio gyda nifer o’r disgyblion newydd dros yr awr ginio, maen debyg wnaeth bawb fwynhau’r daith o amgylch eu hamgylchoedd newydd y bore ‘ma, ond bod yr un teimlad gan bawb...bod eu hysgol newydd yn anferth! Yn nodweddiadol o ddiwrnod cyntaf ysgol uwchradd, roedd un bachgen yn dweud ei fod e a ffrind wedi mynd ar goll yn barod!

Wrth i’r gloch fynd amser cinio, roedd gan y disgyblion amser i ymlacio, ac i ddod i adnabod eu ffrindiau newydd. Roedd e’n hyfryd siarad gyda grŵp o ddisgyblion oedd i gyd yn dod o ysgolion gwahanol...pawb yn dechrau adeiladu perthnasau newydd o’r cychwyn cyntaf.

Gan ofyn i un ferch os oedd y diwrnod cyntaf yn debyg i beth oedd hi’n disgwyl, ges i’r ymateb ‘Na!! Roeddwn i’n disgwyl llawer mwy o waith caled...ond rydw i’n gwybod bod y gwaith caled i ddod!’ - siŵr iawn bod hyn yn wir! Roedd eraill yn dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at ei wersi newydd - gyda llawer ohonyn nhw yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at wersi Cymraeg fwyaf!

Wrth i’r amser mynd yn ei flaen, mae’r diwrnod ysgol yn dod i ben, ac yn ffodus i’r disgyblion newydd, maen nhw’n cael y penwythnos cyfan i adlewyrchu ar eu profiad cyntaf yn Ysgol Llangynwyd. Gobeithio bod pawb wedi cael diwrnod cyffrous, a gyda’r un agwedd ag un ferch nes i siarad gyda, a ddywedodd ‘Dydw i methu aros i ddod yn ôl dydd Llun!!’.


Stori Pwy ydw i? Gan Kathryn Campbell – Swyddog Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Menter Bro Ogwr

http://www.scribd.com/doc/368493 67

Cyflwyniad Prezi gan Marged Thomas - Swyddog Maes a Gweinyddol Menter Bro Ogwr

http://prezi.com/1bcualk8kpw9/cy mraeg-a-brief-history/



03/09/2010


26/01/2010
 

Instant Slide Show!
Diwrnod o antur yn awyr agored Porthcawl

 

Mae Clwb Ieuectid CIC ar gael yng Nghorneli, yn y pafiliwn ym meysydd chwarae Corneli ac ym Mhen y Bont, yn y YMCA ac yng Nghanolfan Richard Price, Llangeinor.

Mae aelodau Corneli wedi bod yn mwynhau gweithgareddau Chwaraeon, Celf a Chrefft, Dawnsio Disgo a Chystadleuthau.
Sialens sydd wedi sefyll mas i glwb CIC Corneli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd pêl droed pump bob ochr yn erbyn yr Heddlu yn enwedig pan wnaeth yr aelodau ennill.


Mae clwb ieuenctid yr YMCA wedi bod yn gwneud yr un pethau, a’r peth mwyaf sydd wedi sefyll mas iddyn nhw oedd aros lan trwy gydol y nos o 7yh i 7yb, gyda rhywun yn chwarae ar y bwrdd tenis trwy’r amser.
Croeso i aelodau newydd a syniadau newydd am fwy o hwyl yn eich clybiau chi.

 

Trip Sbaen 2006


Trip Sbaen Gorffennaf 2006

.
Clwb Dreigiau Bro Ogwr

 

 


 

 

 

 

 


Top
Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200
Menter Bro Ogwr - Elusen gofrestredig rhif: 1112683.
Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5522274
Bwrdd yr iaith Gymraeg