Newyddion Ieuenctid
G?yl Gymraeg Menter Bro Ogwr - Gig Diwedd Tymor![]() Mae’n braf croesawu cwmni teledu Rondo i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd i ymuno â ni am gig diwedd tymor!
Bydd y gig yn cael ei drefnu gan y ‘Tafodau Tanbaid’ sef Phwyllgor Iaith yr ysgol. 15/07/2011 Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm![]() Beth yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm?
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm (GM) yn rhaglen sydd wedi’i chynllunio i gydnabod a dathlu cyfraniadau gwirfoddol pobl ifanc 16-25 oed ym mhob rhan o Gymru. Nod y rhaglen yw annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cyfleoedd i wirfoddoli ac sy’n gyfle iddynt i neilltuo 200 awr o’u hamser i brosiect neu brosiectau o’u dewis. Daw’r wobr a’r anogaeth yn sgil tystysgrifau a ddyfernir i gydnabod 50 a 100 awr o waith gwirfoddol yn ogystal â chamfeydd tuag at y dystysgrif Ragoriaeth am 200 Awr o waith gwirfoddol, sydd wedi’i llofnodi gan Brif Weinidog Cymru. Mae GM yn rhan o gynllun sy’n cael ei redeg ar draws y DU ac mae cynlluniau cyfatebol ar waith yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a’r V award yn Lloegr. Mae GM eisoes yn cael ei weld fel rhywbeth positif i’w gynnwys ar CV neu broffil personol UCAS, ac mae gwaith yn cael ei wneud â Phrifysgolion (mae llawer ohonynt yn rhedeg eu rhaglenni GM eu hunain) i gael credyd i GM ar ffurflenni UCAS yn y dyfodol, felly cadwch olwg am hynny! Nod y rhaglen yw: -Cael effaith bositif ar gymunedau lleol -Cynnig cyfleoedd diddorol a llawn her i wirfoddoli ar gyfer pobl ifanc, un ac oll -Galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd a datblygu’n bersonol -Sicrhau bod rhagor o bobl ifanc yn y gymuned yn cael gwybod am waith gwirfoddol -Gosod safon ar gyfer cyfleoedd i wirfoddoli yng Nghymru -Annog pobl ifanc i hawlio’r rhaglen yn eiddo iddyn nhw’u hunain Os oes diddordeb gyda chi ymuno â'r wobr a gwirfoddoli gyda Menter Bro Ogwr, cysylltwch â Siân am fwy o wybodaeth nawr! sian@menterbroogwr.org 01656 732 200 07929 923806 19/01/2011 Cyrraedd y Nod!![]() Llongyfarchiadau mawr i ein Swyddog Ieuenctid, Siân Stephens, am basio ei chwrs gwaith ieuenctid lefel 3. Roedd Siân wedi gweithio’n galed iawn i gwblhau a chyflwyno ei gwaith cwrs er mwyn derbyn y cymhwyster yma. Roedd Leon Welsby, un o weithwyr ieuenctid rhan amser y Fenter, yn llwyddiannus hefyd. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau! AJE 20/09/2010 Disgo ‘Ar lan y môr’ i flynyddoedd 7 & 8 LlangynwydMae’r pwyllgor iaith wedi bod ati’n galed unwaith eto yn trefnu disgo arall ar gyfer disgyblion Llangynwyd!Dewch yn eich dillad haf am noswaith o hwyl a sbri gyda’ch cyfeillion!
06.05.10 Neuadd ganol Ysgol Gyfun Llangynwyd 16:00 – 17:30 £1 am fynediad A bag o losin! 06/05/2010 G?yl Gymraeg Menter Bro Ogwr![]() Cwis i ddisgyblion Ysgol Gyfun Llangynwyd.
12.45-1.45yp. 05/07/2011 Dawns Haf 2010Ar yr ail o Orffennaf 2010 daeth 53 o blant Ysgolion Cynradd Gymraeg ein Sir ac Ysgol Gyfun Llangynwyd i Ganolfan Hamdden Pen-y-bont yn eu gwisgoedd gorau a mygydau sgleiniog i fwynhau’r Dawns Haf a drefnwyd gan Menter Bro Ogwr. Roedd y noson yn llwyddiannus iawn gyda’r plant a’r staff yn cael hwyl, y DJ yn chwarae caneuon grêt, pawb yn dawnsio ac yn cael llun yn ei wisgoedd hyfryd. Roedd digon o fwyd i bawb. Roedd y bar smwddi yn llwyddiant, fe wnaethon ni rhedeg allan o ffrwythau erbyn diwedd y noson, ac roedd y ffynnon siocled yn drawiadol iawn.
Mynychodd pawb gyda mwgwd er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth mwgwd gorau. Roedd y dewis yma yn anodd iawn, ac oherwydd rhoddwyd y wobr i ddau blentyn, Amelie Davies a Gwion Brearley, llongyfarchiadau mawr iddyn nhw. Diolch i bawb a ddaeth a gobeithio bydd y ddawns blwyddyn nesaf yn cael yr un effaith. 26/11/2010 Diwrnod Pethau Bychain Hapus!![]() Erthygl gan Sian Stephens, Swyddog Ieuenctid Menter Bro Ogwr.
Ta-ta Ysgol Gynradd, helo Ysgol Uwchradd! Jyst cyn i benwythnos cyntaf mis Medi ddechrau, roedd yn rhaid i rai o Gymry Ben-y-bont herio eu diwrnod cyntaf yn Ysgol Gyfun Llangynwyd. Fel y rhan fwyaf o ysgolion, roedd ganddyn nhw’r fraint o wario’r diwrnod cyntaf yn yr ysgol ar ben eu hunain...er mwyn dod i adnabod eu cartref newydd am y blynyddoedd nesaf. Ar ôl sgwrsio gyda nifer o’r disgyblion newydd dros yr awr ginio, maen debyg wnaeth bawb fwynhau’r daith o amgylch eu hamgylchoedd newydd y bore ‘ma, ond bod yr un teimlad gan bawb...bod eu hysgol newydd yn anferth! Yn nodweddiadol o ddiwrnod cyntaf ysgol uwchradd, roedd un bachgen yn dweud ei fod e a ffrind wedi mynd ar goll yn barod! Wrth i’r gloch fynd amser cinio, roedd gan y disgyblion amser i ymlacio, ac i ddod i adnabod eu ffrindiau newydd. Roedd e’n hyfryd siarad gyda gr?p o ddisgyblion oedd i gyd yn dod o ysgolion gwahanol...pawb yn dechrau adeiladu perthnasau newydd o’r cychwyn cyntaf. Gan ofyn i un ferch os oedd y diwrnod cyntaf yn debyg i beth oedd hi’n disgwyl, ges i’r ymateb ‘Na!! Roeddwn i’n disgwyl llawer mwy o waith caled...ond rydw i’n gwybod bod y gwaith caled i ddod!’ - si?r iawn bod hyn yn wir! Roedd eraill yn dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at ei wersi newydd - gyda llawer ohonyn nhw yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at wersi Cymraeg fwyaf! Wrth i’r amser mynd yn ei flaen, mae’r diwrnod ysgol yn dod i ben, ac yn ffodus i’r disgyblion newydd, maen nhw’n cael y penwythnos cyfan i adlewyrchu ar eu profiad cyntaf yn Ysgol Llangynwyd. Gobeithio bod pawb wedi cael diwrnod cyffrous, a gyda’r un agwedd ag un ferch nes i siarad gyda, a ddywedodd ‘Dydw i methu aros i ddod yn ôl dydd Llun!!’. Stori Pwy ydw i? Gan Kathryn Campbell – Swyddog Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Menter Bro Ogwr http://www.scribd.com/doc/368493 67 Cyflwyniad Prezi gan Marged Thomas - Swyddog Maes a Gweinyddol Menter Bro Ogwr http://prezi.com/1bcualk8kpw9/cy mraeg-a-brief-history/ 03/09/2010 ![]() 26/01/2010
|
|
|
Swyddfa Menter Bro Ogwr Tŷ’r Ysgol Pen yr Ysgol Maesteg CF34 9YH Ffôn a ffacs 01656 732200 |
Menter Bro Ogwr - Elusen gofrestredig rhif: 1112683. Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5522274 |
|