Ail-fywiogwch eich Cymraeg!![]() Mae Menter Bro Ogwr a Chymraeg i Oedolion yn gobeithio trefnu’r sesiynau wnaethoch chi ddangos diddordeb mewn mynychu i ail fywiogi eich Cymraeg. Bydd y sesiynau a gofal plant am ddim, gydag aelodau staff sydd â phrofiad o warchod plant ac sydd wedi cael gwiriad CRB.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn Neuadd Goffa Bryncethin, o ddydd Mawrth 14eg I’r dydd Gwener 17eg o Chwefror . Dewch i Ail fywiogi eich Iaith, dewch i gwrdd â phobl eraill sydd yn yr un cwch â chi ac sydd eisiau ail ddysgu mewn ffordd gyffrous. Am ragor o wybodaeth cysylltwch á Kath. kathryn@menterbroogwr.org 01656 732 200 14/02/2012 Ffenest Nadoligaidd Siop yr Hen Bont yn creu argraff ar Faer y Dref![]() Cafodd ffenestri Nadolig mwyaf deniadol Pen-y-bont gydnabyddiaeth gan Faer y Dref. Gwobrwywyd chwe ennillydd yn y gystadleuaeth ffenestr siop gorau am y ffenestri mwyaf creadigol a llawen.
Aeth Elinor Hughes, Amanda Evans a Marged Thomas, ar ran Siop yr Hen Bont a Menter Bro Ogwr, i gyfarfod cyngor y dref mis Rhagfyr i dderbyn y wobr a siec am £40. Llongyfarchiadau mawr i Siop yr Hen Bont a’r ennillwyr eraill! MET 13/01/2012 Hysbyseb SwyddPenybont
Swyddog Maes Lleoliad: Bydd disgwyl i'r sawl a benodir gweithio o adre a bydd cyfleusterau swyddfa ar gael yn swyddfa Mudiad Meithrin yn Llanelli. Hyd y cytundeb: 1 Tachwed 2011 hyd at 31 Mawrth 2012 Oriau Gwaith: 15 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol yn unig Cyflog: £7.20 yr awr Costau Teithio: Telir £195 lwfans car yn flynyddol a 29c y filltir Am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jayne Thomas, Swyddog Datblygu Caerfyrddin ar 07792 946904 Dyddiad Cau: 4.11.11 04/11/2011 Gwersi Telyn![]() Roeddwn i eisiau dysgu i ganu'r delyn ers blynyddoedd ond doeddwn i ddim yn siwr a fyddwn i'n mwynhau mynd i wersi. Wedyn gwelais i hysbyseb Menter Bro Ogwr - saith gwers am ddeng punt - bargen! Mae'n rhaid i fi gyfaddef fy mod braidd yn nerfus cyn y wers gyntaf ond roedd y tiwtor, Elin y Delyn, yn garedig ac yn amyneddgar iawn. Roedd cymysgedd o bobl yno - pobl yn eu tri degau hyd at berson yn ei naw degau, dysgwyr o lefel Sylfaen i Hyfedredd a siaradwyr iaith gyntaf . Roedd pawb yn fodlon cefnogi ei gilydd, yn ieithyddol ac yn gerddorol. Gofynnodd Elin a allai unrhyw un ganu offeryn arall. Wel, dechreuais i ddysgu i ganu'r ffidl pan oeddwn i'n naw oed ond rhoddais i gorau iddi am naw a chwarter oed ac er fy mod yn dipyn o arbenigwraig ar y recorder yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai hynny'n cyfrif! Suddodd fy nghalon wrth glywed y gallai pawb arall ganu'r piano a dechreuais i feddwl am fy ngwersi violin - canu scales ac ymarferion eraill. Ond er syndod mawr i fi, gallai'r dosbarth (a finnau hefyd) ganu dwy gân erbyn diwedd y wers gyntaf - 'Lavenders Blue' a 'Deryn Du'. Aeth y dosbarth o nerth i nerth ac erbyn y chweched wers, roedd mwy na chwe ch'n yn ein repertoire. Treulion ni'r wers olaf yn recordio ein CD cyntaf. Dw i'n dweud 'CD cyntaf' gan fod pawb eisiau dal ati, ond beth bynnag dyn ni i gyd yn penderfynu gwneud yn y dyfodol, cawson ni saith wythnos o hwyl diolch i Elin ac i Fenter Bro Ogwr.
Gan Debbie Seamark www.elinlloyd.com 10/10/2011 Cwrs Zwmba Cymraeg i ddechrau heno!![]() Cwrs 8 wythnos yn cychwyn 26ain o Ionawr 2012
Pob Nos Iau, 7:30yp, Clwb Ceidwadol Abercynffig Cost: £28 am 8 wythnos Dewch i gadw’n heini trwy gyfrwng y Gymraeg mewn dull unigryw! Dewch i ddawnsio i rythmau cerddorol De America, symudwch eich corff wrth ddawnsio Salsa, meringue, cumbia, reggeaton, mambo, cha-cha, hip hop a hyd yn oed dawnsio bol. Bydd cyfuniad o symudiadau cyflym ac araf a gwrthbwysau’n helpu siapio a cherflunio eich corff, wrth iddo losgi braster. Dewch yn llu! Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marged. marged@menterbroogwr.org 01656 732 200 26/01/2012 Bwyta'n iach i blantArddangosiad coginio gan gogydd teledu S4C
Stondinau a gweithgareddau Chwarae meddal Canolfan Chwaraeon Pen-y-bont Dydd Mercher 9fed o Dachwedd 12.30 Mynediad am ddim gyda thocyn - gofynnwch yn y cylch neu ffoniwch 07966 321764 09/11/2011 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Bro Ogwr 2011![]() Dewch i glywed am hanes a datblygiadau Menter Bro Ogwr yn ystod 2010 a 2011!
Nos Fawrth 1af o Dachwedd 2011 Clwb Rygbi Pen-y-bont 7:00yh - 9:00yh Bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Agored i bawb. 01/11/2011 HYSBYSEB SWYDDCYNGHORYDD GWASANAETHAU CWSMERIAID (CROESAWYDD)
Dyddiad Cychwyn : Cyn gynted â phosibl Cyflog : £15,898 - £16,686 CYNGHORYDD GWASANAETHAU CWSMERIAID (CROESAWYDD) CYF: BC/555 GRADDFA GYFLOG 2 PWYNTIAU 14-16: £15,898 - £16,686 I ddarparu gwasanaethau blaen ty i holl gwsmeriaid Coleg Penybont, yn cynnwys ymwelwyr allanol, ynghyd â delio gydag ymholiadau am yr ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan y Coleg. Gydag o leiaf 4 TGAU gradd A-C (neu gyfwerth) yn cynnwys Mathemateg a Saesneg, bydd gennych sgiliau cyfathrebu, gwasanaeth cwsmer a gweinyddol ardderchog. Byddwch yn siarad Cymraeg gyda gwybodaeth ardderchog o raglenni Microsoft Office. Am ragor o fanylion ewch i http://www.fejobs.com/Jobs.aspx?EmpNo=278 18 04/10/2011 |
Digwyddiadau
|
Swyddfa Menter Bro Ogwr Tŷ’r Ysgol Pen yr Ysgol Maesteg CF34 9YH Ffôn a ffacs 01656 732200 |
Menter Bro Ogwr - Elusen gofrestredig rhif: 1112683. Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5522274 |
|