Cyfeirlyfr Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr
Galw sefydliadau, busnesau a chymdeithasau Pen-y-bont ar Ogwr! Ydych chi’n cynnig gwasanaeth Cymraeg?
“Mae gwasanaeth dwyieithog erbyn hyn yn cael ei adnabod trwy Gymru fel arwydd o ansawdd. Mae’r cyhoedd eisoes yn derbyn gwasanaeth dwyieithog oddi wrth y sector cyhoeddus ac maent yn aml yn disgwyl hynny gan fusnesau hefyd. Mae cynnig gwasanaeth dwyieithog yn denu cwsmeriaid newydd ac yn gwneud cwsmeriaid yn fwy ffyddlon.”
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Mae Menter Bro Ogwr yn edrych am sefydliadau, fusnesau a chymdeithasau sydd yn cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ein cyfeirlyfr Cymraeg. Os ydych chi’n cynnig gwasanaeth Cymraeg neu yn gwybod am unrhywun arall sydd yn gwneud, cysylltwch â Marged nawr gyda’ch manylion. Os hoffech chi fwy o wybodaeth yngl?n â darparu gwasanaeth Cymraeg, ewch i www.byig-wlb.org.uk
marged@menterbroogwr.org
01656 732 200