Dewch i Gyd-Ganu Gyda Ni Hoffech chi gymryd rhan mewn recordiad o un o raglenni Dechrau Canu, Dechrau Canmol?
10fed o Fedi 2010
Capel Tabernacl Cwmafan
7:00yh (Bws tua 6:00yh)
Croseo i bawb o bob oedran!
Bydd bws mini yn mynd o ardal
Pen-y-bont ar Ogwr. Os hoffech chi gymryd rhan cysylltwch â Menter Bro Ogwr ar y manylion isod. Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly’r cyntaf i archebu lle caiff fynd! Noson rhad ac am ddim!
menter@broogwr.org
01656 732 200
10/09/2010
|
Eisteddfod Gendlaethol Cymru Blaenau Gwent 2010
Dewch gyda Menter Bro Ogwr i ddathlu dywylliant a threfftadaeth Cymru yn un o wyliau mwyaf y byd!
Pris: £8.50 (Bws yn unig)
Man Codi
Maes Parcio Salt Lake Porthcawl 8.30yb
Wilkinsons Maesteg 8.50yb
Maes Parcio Premier Inn Sarn 9.10yb
Byddwn yn gadael yr Eisteddfod am 5.00yh.
Archebwch eich lle nawr!
01656 732 200
marged@menterbroogwr.org
Dyddiad Cau: 26.07.10
Tocynnau Maes
Oedolion: £15.00
Pensiynwyr: £13.00
Myfyrwyr: £9.00
Plant 12-18 oed: £9.00
Plant 3-12 oed: £3.00
Plant o dan 3: Am ddim
NID ywr’r pris yn cynnwys tocyn i’r maes. Rhaid prynnu tocynnau ar y dydd neu ar y wefan www.eisteddfod.org
02/08/2010
|
|
|
Taith Dewin Trefnodd Kathryn Campbell, Swyddog Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Menter Bro Ogwr a Kate Parry, Swyddog Datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin, daith gyda Dewin i ymweld â phlant ac arweinyddion pob Cylch Meithrin Cymraeg y Sir.
Cafodd y plant gyfle i gwrdd â Dewin, canu caneuon, dawnsio a chael hwyl gyda fe trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Roedd y swyddogion yn teimlo’n gyffrous am y daith ac yn edrych ymlaen at gwrdd â phlant ac oedolion y Sir er mwyn derbyn syniadau newydd er mwyn gwella darpariaethau Cymraeg yn y gymuned. Aeth y daith yn dda iawn, gyda’r plant a’r arweinyddion i gyd yn mwynhau ac roeddent yn awyddus i glywed am brosiectau arall oedd yn mynd i gael eu cynnig iddyn nhw yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch Dewin am ddod i weld plant Sir Pen y Bont ar Ogwr.
03/08/2010
|
Bore Coffi Cymraeg Blaengarw
Mae Menter Bro Ogwr yn falch i gyhoeddi y byddwn yn cynnal bore coffi wythnosol newydd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd cyfle i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg gwrdd am baned a sgwrs bob bore dydd Mercher yng Nghaffi Creation ym Mlaengarw.
Bydd Bore Coffi Blaengarw yn cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf 2010 rhwng 10yb a 11yb. Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni, beth bynnag eich lefel Cymraeg neu’ch oedran!
Os ydych chi’n dysgu Cymraeg ac yn edrych am gyfle i ymarfer dros y gwyliau haf, dyma gyfle i gario clecs ac ymarfer eich Cymraeg wrth wneud!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Marged.
marged@menterbroogwr.org
01656 732 200
02/08/2010
|
|
|