Prosiect y Lolfa Ysgol Llanhari Yn ystod mis Medi llynedd daeth Jordan Morgan-Hughes, cyn disgybl Llanhari, fel Swyddog Maes Menter Bro Ogwr atom i drafod y syniad o adnewyddu lolfa ein chweched dosbarth.
Roedd y syniad yn un a oedd wedi creu cyffro mawr ymysg y disgyblion gan ystyried edrychiad y lolfa pryd hynny.
Cychwynnon ni ar y cynllun gan benodi pwyllgor penodol ar gyfer y dasg. Trwy’r pwyllgor yma cynllunion ni portffolio o’n syniadau ar gyfer edrychiad newydd y lolfa. Y dasg nesaf felly oedd creu taenlen gyda bras amcangyfrif o’r arian byddai angen arnom i gwblhau’r dasg. Yn ystod y flwyddyn newydd gawsom ni ein cyllid ar gyfer y dasg. Ar yr adeg yma felly roedd angen i ni ail ystyried yr hyn roeddem am wario achos gawsom gyllid llai nag oedd wedi’i amcangyfrif. Golygai hyn roedd rhaid i ni fel gr?p edrych o gwmpas ar gyfer prisiau rhatach a syniadau llai costus. Llwyddon ni i wneud hyn gan siopa o gwmpas ac edrych ar y we.
Ac felly gan greu taenlen newydd gyda’r costau penodedig arno, roedd rhaid prynu'r hyn roedd angen arnom. Ar ddiwedd mis Mawrth prynon ni’r hyn roedd angen o siopau megis Ikea, Argos, Leeks ac oddi ar y we i gychwyn yr adnewyddiad. Ac felly yn ystod gwyliau’r Pasg aeth gr?p ohonom i mewn i’r ysgol i gychwyn ar y dasg. Yn gyntaf roedd rhaid glanhau’r waliau a’r ffenestru, codi’r llawr a gwagio’r ystafell er mwyn ei beintio. Cymrodd hyn bore cyfan i ni wneud ac felly yn y prynhawn gwnaethon ni ychydig o beintio er mwyn goleuo’r ystafell. Cymrodd tri diwrnod llawn er mwyn peintio’r ystafell gyda paint gwyn ac yna arian. Nesaf gafodd y llawr ei gwneud ac yna daeth y soffas newydd a oedd angen cael ei roi at ei gilydd. Yn ystod y cyfnod yma roeddem yn aros i’r to cael ei drwsio ac felly yn ystod hanner tymor mis Mai aethon ni mewn er mwyn gwneud ychydig o beintio gorffenedig.
Er bod y prosiect wedi cymryd ychydig mwy o amser nag oedden ni wedi ystyried fel pwyllgor mae’r diwedd o fewn ein golwg ac rydym yn edrych ymlaen at adael rhyw fath o anrheg i ddosbarthau chweched dosbarth y dyfodol yn Llanhari.
Teleri Bevan
06/06/2007
|