Cynllun Chwarae'r Haf Fe wnaeth y Fenter cydlynu cynllun chwarae haf eleni yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, roedd y cynllun am bedair wythnos gyda rhwng 87 – 119 plant wedi troi lan yn wythnosol.
Gaeth y plant y cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘Cymraeg’ Menter Bro Ogwr, cyfle i neud celf a chrefft, chwaraeon, gêmau, gweithio gyda’r parasiwt.
Yn ystod y cyfnod yma gaeth y plant cyfle i fynd ar chwe gwibdaith sef i’r Aquadome, Megabowl, cystadleuaeth chwaraeon gyda’r cynlluniau chwarae eraill y Sir, parc Oakwood, cymryd rhan mewn gweithdy ddrama Adran yr Urdd Porthcawl a Jump yng Nghaerdydd.
Roedd y plant wrth ei bodd.
08/11/2007
|