TAITH DISNEYLAND PARIS Dros hanner tymor aeth dros 500 o blant o ganolbarth a de Cymru ar daith i Eurodisney a Pharis gyda Urdd Gobaith Cymru.
Cyrhaeddom y gwesty crand yn hwyr nos Sul - ar ôl gwario trwy’r dydd yn teithio ar y bws! Er bod y daith yn hir, cawsom lawer o hwyl yn dod i adnabod ffrindiau newydd, siarad â hen ffrindiau, canu a gwylio ffilmiau - ‘High School Musical 2 Rules!!’
Bu rhaid codi yn gynnar bore Llun a chael brecwast ffein iawn yn y gwesty, cyn teithio tua 10 munud i Eurodisney. Fe arhoson ni yn y parc tan 6 o’r gloch! Yn Eurodisney roedd llawer o reids - rhai bach a rhai MAWR! Roedd llawer ohonom ni wedi mynd ar y reid gorau yna, sef ‘Space Mountain’. Er bod llawer o waith ciwio, roedd ganddom ni ‘fast pass’ felly aethom i flaen y ciw! Gwelsom hefyd barêd’ hyfryd gydag holl gymeriadau Disney - roedd e’n wych ac yn bert iawn!
Ar ôl gadael y parc fe aethom ni ar daith cwch i lawr yr afon ‘Siene’ a gweld llawer o lefydd ac atyniadau poblogaidd Paris fel Notre Dame, a’r Twr Eiffel wedi goleuo lan oedd yn bert iawn! Ar y cwch roedd llawer o bobl ifanc o ar draws ysgolion Cymru, roedd e’n siawns dda iawn i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd hefyd!
Bore Mawrth aethom ni i'r Twr Eiffl. Roeddem ni wedi dringo yn y lifft - roedd rhai wrth eu boddau ond eraill yn ei gasáu am fod y lifft mor gyflym ac uchel!! Pan gyrhaeddom ni'r ail lawr cafodd bawb rhwyfaint o fwyd a diod- Creps oedd ffefryn pawb! Cawsom hefyd gyfle i dynnu lluniau o’r golygfeydd prydferth.
Yna roedd hi'n amser dychwelyd am y bws a throi am adre :(
Cawsom amser gwych ar y daith! Diolch i Catrin, Jordan, Deiniol a Caryl am fynd a ni. Rwy’n disgwyl ymlaen nawr at daith nesaf yr Urdd i Sbaen y flwyddyn nesaf!!
19/02/2008
|