Dathliadau Ysgol y Ferch o'r Sgêr Agorodd Ysgol y Ferch o’r Sgêr ym Mis Medi 1982 i gynnig addysg Gymraeg i blant ardal Porthcawl, Corneli, y Pîl , Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr. Roedd 31 o ddisgyblion ar y gofrestr pan agorodd yr ysgol ar ei safle gwreiddiol yng nghanol pentref Corneli, ond wrth i nifer y plant gynyddu ac oherwydd bod yr adeilad yn gyfyng, symudodd yr ysgol i’w safle presennol ar Greenfield Terrace ym mis Medi 1996.
19/06/2008
|