Ers dros 30 mlynedd mae pobl ifanc Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn ei addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Llanhari, Rhondda Cynon Taf.
Bydd hyn yn newid o'r 3ydd o Fedi ymlaen, pan fydd ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg cyntaf y fwrdeistref sirol yn agor ei drysau yn Llangynwyd.
Mae nifer o bobl wedi brwydro dros y 15 mlynedd diwethaf i weld ysgol gyfun Gymraeg yn agor o fewn y sir. Rhaid i ni heddiw diolch iddynt am ei ymdrechion.
Tua 130 bydd yn y mewnlif cyntaf o ddisgyblion blwyddyn 7. Bydd niferoedd yr ysgol yn cynyddu wedyn o flwyddyn i flwyddyn tan fydd y disgyblion fydd yn dechrau yno yfory yn cyrraedd blwyddyn 13 ym mis Medi 2014.
Hoffai swyddogion y fenter dymuno'n dda i staff a disgyblion yr ysgol newydd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio dros y blynyddoedd i ddod.
JMH
02/09/2008
Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200