Bydd mudiadau Cymraeg Pen-y-Bont ar Ogwr yn cefnogi Ras Sion Corn 2008. Ty Hafan a Bridge FM sydd yn trefnu'r diwrnod hwylus yma, er mwyn codi arian ar gyfer elusen Ty Hafan.
Bydd y 500 cyntaf i ymrestru ar y daith yn derbyn gwisg Siôn Corn. Bydd pawb arall sydd yn llwyddo i godi £30 neu fwy tuag at yr achos arbennig yma yn derbyn crys-t.
DYDD SADWRN, 22 TACHWEDD 2008, 17.30yh
£7.50 Oedolion
£5.00 Pobl Ifanc dan 16
£20.00 Tocyn Teulu (2 oedolyn a 2 plentyn)
Bydd y ras yn cychwyn yng nghanol tref Pen-y-Bont.
Cysylltwch a swyddfa'r fenter am ragor o wybodaeth.
18/11/2008
Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200