Taith i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd. Rhwng 25 – 30 Mai 2009, caiff Bae Caerdydd ei drawsnewid i gynnal Eisteddfod yr Urdd, g?yl ieuenctid ddiwylliannol Cymru. Bydd hyd at 100,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr yn rhan o fwrlwm yr wyl a chynulleidfa deilwng yn gwylio’r cyfan ar y teledu. Gyda goreuon ieuenctid Cymru yn cystadlu mewn cystadlaethau canu, llefaru, actio, drama, dawnsio, cyfansoddi, barddoni, celf a chrefft a llawer mwy, bydd digon o gyffro i’w weld a’i glywed ym Mae Caerdydd dros wythnos hanner tymor.
Mae Menter Bro Ogwr yn trefnu bws i’r Eisteddfod ar Ddydd Iau 28ain o Fai. Pris y bws fydd £8 i oedolion a £7.50 i blant. Nid yw’r pris yn cynnwys mynediad i’r Eisteddfod.
Gadael:
09.00 – Maes Parcio Salt Lake Porthcawl
09.20 – Maes Parcio Harvester Sarn
Dychwelyd:
17.00 – Harvester Sarn
17.20 – Maes Parcio Salt Lake Porthcawl.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Marged.
01656 732 200
marged@menterbroogwr.org
28/05/2009
|