Galw Iechyd Cymru yn lansio gwasanaeth ymholiad ar lein
i siaradwyr Cymraeg
Mae gwasanaeth ymholiad ar lein Galw Iechyd Cymru bellach ar gael yn y Gymraeg. Mae’r gwasanaeth ymholiad ar lein ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru yn www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk a gallwch ofyn cwestiwn ar amrywiaeth eang o destunau cyffredinol cysylltiedig â iechyd gan gynnwys cyflyrau cyffredin fel brech yr ieir, gwasanaethau GIG lleol, hawliau cleifion a byw yn iach. Mae Arbenigwyr Gwybodaeth Iechyd profiadol yn ateb yr ymholiadau trwy e-bost gan ddefnyddio gwybodaeth o ansawdd uchel a nawr gallwch ddewis cael ateb i’ch ymholiad yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Dywedodd Leanne Hawker, Arweinydd Partneriaid mewn Gofal Iechyd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Galw Iechyd Cymru, “Rydym yn gwybod fod pobl eisiau gwybodaeth y gallant ymddiried ynddi yn eu dewis iaith. Bydd y cyfleuster hwn yn eu galluogi i ofyn am a derbyn gwybodaeth iechyd o wefan defnyddwyr GIG Cymru.”
Mae Galw Iechyd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac mae’r gwasanaeth ymholiad ar lein Cymraeg y datblygiad diweddaraf i wefan dwyieithog Galw Iechyd Cymru.
30/06/2010
|