Ar yr 2il o Orffennaf trefnodd y Fenter bore hwyl i’r teulu yn Rest Bay, Porthcawl. Roedd hi’n ddiwrnod braf gyda’r plant yn gwneud barcudiaid a’r rhieni’n siarad gyda staff y Fenter a rhieni eraill o’r Sir.
Mwynhaodd y plant rhedeg rownd y traeth gyda’i barcudiaid tra bod y rhieni yn cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg a chlywed beth sydd wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf.
Digwyddiad llwyddiannus iawn! Edrychwn ni ymlaen at y digwyddiad nesaf a chael cwrdd â chi gyd unwaith eto.
K.C.
03/09/2011
Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200