Taith Iaith - Tacsi Pinc Cynhaliwyd wythnos o weithgareddau i dathlu ffyniant yr Iaith Gymraeg ym Mro Ogwr o ddydd Llun, Hydref 20fed 2003. Yn y lansiad yng Ngwesty'r Hi-Tide, Porthcawl, roedd eitemau gan Ysgol Y Ferch O'r Sger ac roedd Sara Edwards o Wales Today a Cefin Campbell, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, yn agor y Daith yn swyddogol. Roedd cyfle i weld y tacsi pinc ac roedd dros 100 o falwns yn cael eu gollwng i'r awyr i ddathlu'r achlysur.

28/10/2003
|