Help / Cymorth
01656 732200

Newyddion

 

Oedolion 1

Cwrs Zwmba Cymraeg i ddechrau heno!

Cwrs Zwmba Cymraeg i ddechrau heno!
Cwrs 8 wythnos yn cychwyn 26ain o Ionawr 2012

Pob Nos Iau, 7:30yp, Clwb Ceidwadol Abercynffig

Cost: £28 am 8 wythnos

Dewch i gadw’n heini trwy gyfrwng y Gymraeg mewn dull unigryw! Dewch i ddawnsio i rythmau cerddorol De America, symudwch eich corff wrth ddawnsio Salsa, meringue, cumbia, reggeaton, mambo, cha-cha, hip hop a hyd yn oed dawnsio bol. Bydd cyfuniad o symudiadau cyflym ac araf a gwrthbwysau’n helpu siapio a cherflunio eich corff, wrth iddo losgi braster. Dewch yn llu! Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marged.

marged@menterbroogwr.org

01656 732 200

26/01/2012

Alys

Alys
20/01/2011

Cystadleuaeth Mini Saga Cordell 2010

Cystadleuaeth Mini Saga Cordell 2010
Roedd Alexander Cordell yn hoff o ysgrifennu erioed. Dechreuodd ar ei yrfa drwy anfon storïau i gystadlaethau. Gyrrodd rannau o 'Rape of the Fair Country' i gystadleuaeth y 'South Wales Argus' ym 1957. Erbyn hyn mae
miliynau o bobl dros y byd wedi darllen y llyfr.

Mae Cystadleuaeth Lenyddol Alexander Cordell yn saith oed -ond bydd hi'n wahanol eleni! Eich tasg eleni fydd creu mini saga - stori gyfan mewn 50 oeiriau! Efallai bod stori fyddai'n denu'r miloedd yn chwilen yn eich pen ers
sbel. Dyma'ch cyfle i gyflwyno'ch stori i ddarllenwyr!

Dyddiad Cau: 30 Medi 2010

Am fwy o wybodaeth ewch i http://cordellcountry.org/en/competition /how-to-enter
30/09/2010

ADUNIAD YSGOL GYMRAEG MAESTEG

ADUNIAD YSGOL GYMRAEG MAESTEG

I ddathlu 60 mlynedd o Addysg Gymraeg yng Nghwm Llynfi, cynhelir aduniad i gyn-ddisgyblion, athrawon, staff a rhieni'r Ysgol Gymraeg Maesteg dros yr holl flynyddoedd.
Cynhelir yr aduniad ar y nos Wener, 26ain o fis Mawrth, 2010 am 8 o’r gloch yng Nghlwb Golff Maesteg.
Bydd buffet, ambell siaradwr a dawns (Twmpath).
Cost y tocynnau yw £15.

Amhosib fyddai cysylltu â phawb a fu yn gysylltiedig â’r ysgol dros yr holl flynyddoedd felly gofynnwn yn garedig i chi copïo’r llythyr hon a’i danfon ymlaen at eraill fyddai â diddordeb yn y dathlu.

Cyfyngir y nifer i 200 o bobl, felly'r cyntaf i’r felin am docynnau.

I archebu tocynnau, cysyllter â:

Non Batten (James cynt) 07944790496
Phillip Brace 07974815317
Carolyn Davidson (Hood cynt) 07828054199
Brian Roderick 07802762685.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
26/03/2010

G?yl Gymraeg Menter Bro Ogwr

G?yl Gymraeg Menter Bro Ogwr
Cwis Tafarn Cymraeg

Ffansio'ch hun fel Mastermind sir Pen-y-bont, neu jyst yn edrych am gyfle i gael hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg, dewch i ymuno â ni!

Six Bells, Coety

7:30yh

05/07/2011

YN EISIAU: GWIRFODDOLWYR AR GYFER CYLCHOEDD TI A FI

Mae Mudiad Ysgolion Meithrin yn edrych am bobl frwdfrydig sydd â diddordeb gwirfoddoli yng Nghylchoedd Ti a Fi Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Ydych chi’n rhiant sydd newydd gael babi ac eisiau defnyddio eich Cymraeg a mynychu cylch Ti a Fi i gymdeithasu a mamau eraill? Ydych chi’n berson sydd á diddordeb gweithio á phlant? Ydych chi’n berson sydd yn chwilio am gyfleoedd profiad gwaith? Wel dyma gyfle i chi.

Nod y cylch Ti a Fi yw cynnig cyfle i rieni/gwarchodwyr fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig.

Mae'r cylch Ti a Fi yn cynnig gweithgareddau sy'n helpu datblygiad plant o enedigaeth hyd at oed ysgol. Mae’n gyfle i rieni/gwarchodwyr gwrdd mewn awyrgylch anffurfiol, i rannu profiadau a chymdeithasu dros baned.

Mae mynd i'r cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i'r plant:

* fwynhau chwarae gyda phob math o deganau
* ganu a gwrando ar storiâu
* chwarae gyda thywod a chlai
* ... a gwneud ffrindiau!

Mae mynd i’r cylch Ti a Fi yn gyfle gwych i ddefnyddio'r iaith Gymraeg, os yn ddysgwr neu siaradwr Cymraeg rhugl. Mae gweithgareddau'r cylch yn atgyfnerthu’r Gymraeg yn y cartref ac yn rhoi cyfle i deuluoedd di-Gymraeg ddefnyddio’r iaith am y tro cyntaf efo’u plant.

Os oes gennych chi ddiddordeb i helpu sefydlu neu fynychu Cylch ti a fi cysylltwch â Kate Parry, Swyddog Datblygu MYM ar 07800 540221 neu trwy e-bost - kate.parry@mym.co.uk.

AJE
01/10/2010

Cam wrth Gam

Cam wrth Gam
Dim cymwysterau?
Eisiau gweithio gyda phlant ifanc?

Mae hyfforddiant ar gael am ddim gan Mudiad Ysgolion Meithrin. Bydd yn dechrau o fis Medi 2010 hyd Awst 2011 -
yn ystod tymor ysgol yn unig.

Hyfforddiant rhan-amser i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr da mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn eich ardal chi e.e.
cylchoedd meithrin neu feithrinfeydd dydd. Cyfle i ennill cymhwyster CGC Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad
Plentyn.

Am becyn gwybodaeth ffoniwch: 01970 639 601

neu e-bostiwch: post@camwrthgam.co.uk

neu ewch i: www.mym.co.uk

Dyddiad cau: 28 Mai, 2010
Mudiad Ysgolion Meithrin – yr arbenigwyr blynyddoedd cynnar Cymraeg
28/05/2010

Cyfle i fod yn gystadleuwr ar y rhaglen teledu 0 ond 1!!!

Cyfle i fod yn gystadleuwr ar y rhaglen teledu 0 ond 1!!!
12/03/2010

 

 

 

 

 


 

 

 

 


Top
Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200
Menter Bro Ogwr - Elusen gofrestredig rhif: 1112683.
Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5522274
Bwrdd yr iaith Gymraeg